Lleoliad:
Fideo Gynadledda via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Tachwedd 2020
Amser:
14.00 -
15.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6512
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru Emily Hole, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
1.4 Diolchodd y Cadeirydd i Mandy Jones am ei hamser ar y Pwyllgor, gan nad yw hi bellach yn aelod.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 - 22 Hydref 2020
3.1.1 Nodwyd y papur.
3.2 Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Cytundeb Amlinellol Fframwaith drafft ar gyfer Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus - 26 Hydref 2020
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3 Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch negodiadau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop - 27 Hydref 2020
3.3.1 Nodwyd y papur.
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Cysylltiadau Rhynglywodraethol - 27 Hydref 2020
3.4.1 Nodwyd y papur.
3.5 Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach at y Cadeirydd ynghylch Grwpiau Cynghori ar Fasnach - 27 Hydref 2020
3.5.1 Nodwyd y papur.
3.6 Papur i'w nodi 6: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Grwpiau Cynghori ar Fasnach - 29 Hydref 2020
3.6.1 Nodwyd y papur.
3.7 Papur i'w nodi 7: Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig - 3 Tachwedd 2020
3.7.1 Nodwyd y papur.
3.8 Papur i'w nodi 8: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach 2020: Cydsyniad Deddfwriaethol - 3 Tachwedd 2020
3.8.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Trafod cytundebau rhyngwladol
6.1 Ystyriodd a nododd yr Aelodau'r Atodlenni Diwygiedig i'r Cytundeb ar Gaffael y Llywodraeth o ganlyniad i brotocol 2012 sy’n diwygio'r cytundeb ar gaffael y llywodraeth, gan ddod i rym mewn perthynas â’r Swistir.